clawr Y Dywysoges Sach Datws

Y Dywysoges Sach Datws

cyfaddasiad gan Iwan Llwyd
stori gan Robert Munsch
lluniau gan Michael Martchenko

28tt, 204 x 204 mm, lliw llawn, Mai 2003, £3.99
ISBN-10 0953320642
ISBN-13 978-0-9533206-4-6

‘Dyma’r llyfr diweddaraf yn y gyfres gan gwmni Houdmont o Gaerdydd sy’n cynnwys ‘Dwi Eisiau Mynd, Siwt Eira Tomos a Moch. Mae’r rhain yn storïau llawn hiwmor a chwerthin iach i blant a’u rhieni. Dydy’r stori hon ddim yn eithriad. Ceir ynddi hanes tywysog, tywysoges a draig. Dyma gymeriadau cyfarwydd ym myd storïau hyd a lledrith, ond ceir fformiwla go fodern yma. Caiff y tywysog ei gipio, ac mae’r dywysoges yn ddewr ac yn llawn dychymyg wrth geisio’i achub. Dyma dywysoges y buasai’r ffeministiaid yn ein plith yn falch iawn ohoni.
Mae’r stori’n wreiddiol, a’r lluniau’n cydweddu i’r dim â’r testun. Dydw i ddim eisiau rhannu cyfrinach y diweddglo, ond digon yw dweud ei fod yn ddiwedd cofiadwy, ac yn peri i blant a’u rhieni wenu am amser hir ar ôl diwedd y stori. Mae’r stori hon a’r neges yn siŵr o apelio at blant o bob oed, a’u rhieni.’ www.gwales.com

Mae Robert Munsch yn un o storiwyr mwyaf Gogledd America. Mae Robert yn byw gyda'i deulu yn Ontario, Canada.

Ganwyd Michael Martchenko yn Ffrainc ond erbyn hyn mae'n bywyng Nghanada. Cydnabyddir ei waith dylunio ar gyfer llyfrau Robert Munsch yn rhyngwladol. Ef yw Cyfarwyddwr Creadigol Artists.

Mae Iwan Llwyd yn fardd ac yn gweithio llawer mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru er mwyn rhoi hwb i feirdd y dyfodol. Mae Iwan yn byw yn Nhalybont, ger Bangor, efo Nia a'u merch fach, Rhiannon. Weithiau mae gan Rhiannon gynffon yn ei gwallt, ond wnaeth hi erioed wisgo sach datws!

"Llyfrau a fydd yn siŵr o apelio at blant sydd yn mwynhau darllen yn annibynnol. Mae'r testun yn glir ac yn hawdd ei ddilyn. Lluniau lliwgar yn portreadu cymeriadau byw, dychymygus a real." Sian Rolph, Cydlynydd Iaith Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd.

Bydd y llyfr hwn yn apelio at blant rhwng 4 a 7 oed, a bydd rhieni yn cael cryn bleser yn ei ddarllen hefyd!

"Fe gaiff plant bleser mawr yn darllen y stori hon. Dwi'n meddwl fod diweddglo y stori yn arbennig o dda - y math o ddiweddglo a fydd yn gwneud i blant wenu am amser hir ar ol gorffen darllen a bydd hefyd yn gwneud iddynt gofio'r stori. Mae plant wrth eu boddau yn gwrando ar storïau yn enwedig rhai doniol ac yn sicr dyna beth a gawn nhw yma." athrawes ysgol gynradd

‘ . . . mae addasiad Iwan Llwyd mor naturiol a hawdd i'w ddarllen fel na fyddai neb yn sylwi mai cyfaddasiad yw'r gyfres ddeniadol a lliwgar hon.’ Yr Herald Cymraeg

‘ . . . storïau mor ddarllenadwy a difyr . . . ’ Adroddiad Panel Cloriannu Llyfrau Grant Cyhoeddi 2003-04

Gweler yr adolygiad am lyfrau eraill yn y gyfres - does dim dwywaith bydd y plant wrth eu boddau yn darllen y llyfrau.

Teitlau'r gyfres:
    
  • Wrth Draed Tad DafyddNewydd
  •     
  • Y Dywysoges Sach DatwsNewydd
  •     
  • Cynffon Gwallt CatrinNewydd
  •     
  • Moch
  •     
  • ’Dwi eisiau mynd!
  •     
  • Siwt eira Tomos
  • a mwy i ddod . . .

    clawr moch clawr dwi eisiau mynd clawr Siwt Eira Tomos clawr Wrth Draed Tad Dafydd clawr Y Dywysoges Sach Datws clawr Cynffon Gwallt Catrin

     

     

    Cliciwch yma i archebu ar lein