Mae Iwan Llwyd yn adnabyddus fel bardd a fel aelod o'r grwp Enw
Da. Mae yn parhau i wneud gwaith creadigol gyda phlant yn ysgolion
Cymru. Dyma'r ei waith cyntaf i'w cyhoeddi ar gyfer plant.
Mae Robert Munsch yn un o storiwyr mwyaf Gogledd America. Wrth adrodd stori i grwp bach o
blant, bu rhaid i fachgen bach o'r rhes flaen adael i fynd i'r ty bach. Fe'i
codwyd gan ei Dad a gadawsant ar frys. Ar ôl dod yn ôl gofynnodd y plentyn i
Robert Munsch gwneud stori amdano. Dwi eisiau mynd ydy'r stori honno.
Mae Robert yn byw gyda'i deulu yn Ontario, Canada.
Ganwyd Michael Martchenko yn Ffrainc ond erbyn hyn mae'n byw yng Nghanada. Cydnabyddir
ei waith dylunio ar gyfer llyfrau Robert Munsch yn rhyngwladol. Ef yw
Cyfarwyddwr Creadigol TDF Artists.
Bydd y llyfr hwn yn apelio at blant rhwng 4 a 7 oed, a bydd rhieni yn cael cryn bleser yn ei ddarllen hefyd!
Gweler yr adolygiad - . . . does dim dwywaith bydd y plant wrth eu boddau yn darllen y llyfrau . . .
Teitlau'r gyfres:
Archebu ar lein