Mae Robert Munsch yn un o storiwyr mwyaf Gogledd America. Mae Robert yn byw gyda'i deulu yn Ontario, Canada.
Ganwyd Michael Martchenko yn Ffrainc ond erbyn hyn mae'n bywyng Nghanada. Cydnabyddir ei waith dylunio ar gyfer llyfrau
Robert Munsch yn rhyngwladol. Ef yw Cyfarwyddwr Creadigol Artists.
Mae Iwan Llwyd yn fardd ac yn gweithio llawer mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru er mwyn rhoi hwb i feirdd y dyfodol. Mae Iwan yn byw yn Nhalybont, ger Bangor, efo Nia a'u merch fach, Rhiannon.
Bydd y llyfr hwn yn apelio at blant rhwng 4 a 7 oed, a bydd rhieni yn cael cryn bleser yn ei ddarllen
hefyd!
"Llyfrau a fydd yn siŵr o apelio at blant sydd yn mwynhau darllen yn annibynnol. Mae'r testun yn glir ac yn hawdd ei ddilyn. Lluniau lliwgar yn portreadu cymeriadau byw, dychymygus a real." Sian Rolph, Cydlynydd Iaith Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd.
"Fe gaiff plant bleser mawr yn darllen y stori hon. Dwi'n meddwl fod diweddglo y stori yn arbennig o dda - y math o ddiweddglo a fydd yn gwneud i blant wenu am amser hir ar ol gorffen darllen a bydd hefyd yn gwneud iddynt gofio'r stori. Mae plant wrth eu boddau yn gwrando ar storïau yn enwedig rhai doniol ac yn sicr dyna beth a gawn nhw yma." athrawes ysgol gynradd
. . . mae addasiad Iwan Llwyd mor naturiol a hawdd i'w ddarllen fel na fyddai neb yn sylwi mai cyfaddasiad yw'r gyfres ddeniadol a lliwgar hon. Yr Herald Cymraeg
Addaswyd nifer o lyfrau Robert Munsch eisoes ir Gymraeg, ac maer gyfrol hon yn dilyn yr un arddull anffurfiol, storïol, hawdd ei darllen.
Maer stori'n dechrau'n arbennig o afaelgar pan wêl Esyllt ddynion symud tŷ yn cario llwy, cyllell a fforc anferth heibio iddi. Mae'n darganfod mai hogyn digon cyffredin or enw Dafydd syn byw yn y tŷ, ond wrth gwrs, fel yr ydych yn gallu dyfalu, mae tad Dafydd yn gawr. Mae yna gysyniadau braidd yn anodd i blentyn eu deall yn y stori a rhaid i Robert Munsch esbonior gwahaniaeth rhwng Dafydd ai dad trwy ddweud mai wedi cael ei fabwysiadu y mae Dafydd. Efallai y bydd tad Dafydd yn codi ofn ar ambell blentyn ond yn y pen draw, ar ochr y bychan ar diamddiffyn y mae o.
Mae tro digon clyfar ar ddiwedd y stori yma a bydd plant un ai yn hoffir gwiriondeb ar digrifwch neu'n gweld y stori yn un hollol hurt!Nia Gruffydd www.gwales.com
. . . storïau mor ddarllenadwy a difyr . . . Adroddiad Panel Cloriannu Llyfrau Grant Cyhoeddi 2003-04
Gweler yr adolygiad am lyfrau eraill yn y gyfres - does dim dwywaith bydd y plant wrth eu boddau yn darllen y llyfrau.
Teitlau'r gyfres: