Mae Robert Munsch yn yn byw yn Guelph, Ontario gyda'i wraig a'i blant, a chi. Bu'n dweud straeon ers blynyddoedd lawer ac mae'n arbennig o hoff o'u cyfansoddi o flaen cynulleidfa o bobol ifanc. Y tro olaf iddo glymu cynffon yn ei wallt oedd ym 1969.
Mae Michael Martchenko wedi ennill sawl gwobr am ddylunio a darlunio.Cafodd ei eni yn Ffrainc ond fe'i magwyd ac aeth i'r ysgol gelf yn Canada. Mae wedi creu darluniau ar gyfer nifer fawr o lyfrau gan Robert Munsch, ond wnaeth o erioed glymu cynffon yn ei wallt.
Mae Iwan Llwyd yn fardd ac yn gweithio llawer mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru er mwyn rhoi hwb i feirdd y dyfodol. Mae Iwan yn byw yn Nhalybont, ger Bangor, efo Nia a'u merch fach, Rhiannon. Weithiau mae gan Rhiannon gynffon yn ei gwallt, ond wnaeth hi erioed wisgo sach datws!
Bydd y llyfr hwn yn apelio at blant rhwng 4 a 7 oed, a bydd rhieni yn cael cryn bleser yn ei ddarllen
hefyd!
"Llyfrau a fydd yn siŵr o apelio at blant sydd yn mwynhau darllen yn annibynnol. Mae'r testun yn glir ac yn hawdd ei ddilyn. Lluniau lliwgar yn portreadu cymeriadau byw, dychymygus a real." Sian Rolph, Cydlynydd Iaith Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd.
"Fe gaiff plant bleser mawr yn darllen y stori hon. Dwi'n meddwl fod diweddglo y stori yn arbennig o dda - y math o ddiweddglo a fydd yn gwneud i blant wenu am amser hir ar ol gorffen darllen a bydd hefyd yn gwneud iddynt gofio'r stori. Mae plant wrth eu boddau yn gwrando ar storïau yn enwedig rhai doniol ac yn sicr dyna beth a gawn nhw yma." athrawes ysgol gynradd
. . . mae addasiad Iwan Llwyd mor naturiol a hawdd i'w ddarllen fel na fyddai neb yn sylwi mai cyfaddasiad yw'r gyfres ddeniadol a lliwgar hon. Yr Herald Cymraeg
Bob tro y mae Catrin yn newid steil ei gwallt, maer plant ysgol i gyd yn ei galw hin hyll. Ond y rhyfeddod mawr yw, erbyn trannoeth maen nhw i gyd yn ei dynwared hi; hyd nes i Catrin ddweud ei bod am siafio'i phen . . . gyda chanlyniadau doniol iawn.
Lluniau dychmygus a digri Michael Martchenko syn gwneud hwn yn llyfr doniol tu hwnt; yn enwedig y llun olaf yn y llyfr syn llwyddo i grynhoir diweddglo heb fod angen geiriau. Rhydd gyfle i blant ac athrawon drafod pynciau fel dynwared yn slafaidd, pwysigrwydd annibyniaeth, a sut i roi a derbyn beirniadaeth . . . Eiry Palfrey www.gwales.com
. . . storïau mor ddarllenadwy a difyr . . . Adroddiad Panel Cloriannu Llyfrau Grant Cyhoeddi 2003-04
Gweler yr adolygiad am lyfrau eraill yn y gyfres - does dim dwywaith bydd y plant wrth eu boddau yn darllen y llyfrau.
Teitlau'r gyfres: