"Llond bol o chwerthin . . . "

‘Does dim byd gwell er mwyn denu plentyn i ddarllen na stori sy’n cynnig llond bol o chwerthin. Bonws ychwanegol yw fod hiwmor y llyfr hefyd yn apelio’n fawr at rieni, a dyna’n sicr a geir yn y tair stori fach hyn.

Hanes ymdrechion mam ac athrawon i gael bachgen styfnig fel mul i wisgo'i siwt eira frown ‘hyll’ a geir yn Siwt Eira Tomos. Adrodd am helyntion Megan wrth ollwng y ‘creaduriaid mwyaf twp’ a welodd erioed allan o’u twlc a wneir yn Moch, ac yn y drydedd stori ’Dwi eisiau mynd! cawn olwg ar yr helynt y mae Andrew yn ei achosi wrth iddo benderfynu ‘peidio byth â phi-pi eto’ - er mawr ddifyrrwch i'r darllenydd.

Fe’n denir ni'n syth gan ddiwyg lliwgar y llyfrau yn ogystal â chan hiwmor bywiog ac iach y straeon. Mae’r tair stori’n hawdd i’w darllen; ceir yma ailadrodd pwrpasol, ac mae maint y print yn addas ar gyfer plant sy’n cael eu cymell i ddarllen ar eu pennau eu hunain. Credaf fod addasiadau Iwan Llwyd o’r tair stori yn hynod raenus. Braf yw cael testun naturiol a chynhyrog, ac ambell ddisgrifiad gafaelgar, er enghraifft y disgrifiad o’r moch yn sefyll ‘fel swigod ar blorod’. Mae'r sefyllfaoedd sylfaenol ddoniol yn ddeniadol dros ben. Yn wir, pa riant sydd heb glywed nain neu fam-gu yn doethinebu, "Chefais i rioed y problemau hyn gyda ’mhlant i?"

Dyma dair o'r storïau doniolaf yr wyf wedi eu darllen ers tro, ac mae’n braf dweud iddynt gael eu haddasu’n llwyddiannus i'r Gymraeg. Bydd croeso mawr iddynt.’
Delyth Parry Huws, Llais Llyfrau

‘Y Prifardd Iwan Llwyd sy'n gyfrifol am addasu cyfres Houdmont, sy'n cynnwys Y Dywysoges Sach Datws, Cynffon Gwallt Catrin, ac Wrth Draed Tad Dafydd.
Cyhoeddwyd y gyfres hon yn wreiddiol yn Nghanada gan yr awdur Robert Munsch a'r dylunydd Michael Martchenko.
Ond mae addasiad Iwan Llwyd mor naturiol a hawdd i'w ddarllen fel na fyddai neb yn sylwi mai cyfaddasiad yw'r gyfres ddeniadol a lliwgar hon.
Mae chwe chyfrol yn y gyfres hyd yma, gyda'r tair yn newydd sbon.’ Yr Herald Cymraeg

 

Am fwy o fanylion . . .

    
  • Wrth Draed Tad DafyddNewydd
  •     
  • Y Dywysoges Sach DatwsNewydd
  •     
  • Cynffon Gwallt CatrinNewydd
  •     
  • Moch
  •     
  • 'Dwi eisiau mynd!
  •     
  • Siwt eira Tomos
  • clawr moch clawr dwi eisiau mynd clawr Siwt Eira Tomos clawr Wrth Draed Tad Dafydd clawr Y Dywysoges Sach Datws clawr Cynffon Gwallt Catrin