Y Cyrff

“Son amdan' Cymru, Lloegr a Llanrwst”– mae e'n rhywbeth tebyg i ddawns waltz ond yn dilyn rhythm y stryd. Mae'r man cychwyn yn dibynnu ar y partner a'r praidd a does dim sicrwydd na fyddwch yn cael eich taro i lawr. Dechrau gyda'r Albion efallai, wedyn Pen–y–Bryn ac yna draw i New Inn. Y Llew Coch – neu'r Legion – dibynnu pwy di'r partner. Draw i'r Eagles – rhy llawn nol i New Inn ac wedyn i'r Eagles ac yn ol i'r Albion – efallai!!

Rhywle yn y cylchdaith yna ma' calon ac enaid‘Y Cyrff’, gyda breichiau yn ymestyn i Cae'r Felin, Cae Person, Stryd yr Orsaf, Heol Watling a Ffordd Nebo – hyd yn oed Capel Garmon a Pentrefoelas. Gorffen ar y sgwar yn siglo i sain y swn canol nos. Teimlad braf. Pwysig gorffen gyda’r partner iawn – “cofia gwenu os ti'n cael dy daro i lawr!”. Cymysgwch y sgwadis, y joscs a hogia'r dre'. Y cwffio a'r caru, y sgrechian a'r galaru.

Trwy gydol yr wythdegau roedd ‘Y Cyrff’ yn creu tonfedd a oedd yn ymestyn o Lanrwst i bob rhan o Gymru a thu hwnt. Yn ran creiddiol ac allweddol o'r don newydd o gerddoriath a ymddangosodd yng Ngymru fel atodiad i'r saithdegau a swn Y Clash, Stiff Little Fingers a'r Undertones. Fel Llanrwst, roedd ‘Y Cyrff’ yn rhan o'r sin ac eto roeddent ar wahan ac yn mynnu torri eu cwys eu hunain. Llwyddodd ‘Y Cyrff’ i gadw eu hunaniaeth ac i fod yn driw i'w hunain tra ar yr un pryd yn cyfleu holl hwyl ac antur chwarae mewn band.

Mynd gyda Barry C. i nol gitar o Connah's Quay, benthyg fan i nol amps o Fangor, colli ffordd wrth chwilio am gig. Teithio drwy'r tywyllwch, y cwrw, y caru a mwg y nos. Y blinder a'r wefr, y chwys a'r chwerthin – lot o chwerthin. Rhannu potel, rhannu tships a rhannu trips. Rhannu llwyfan gyda degau o fandiau mawr a man. Y Maffia a'r Llwybr Llaethog, Ffa Coffi Pawb, Yr Anrhefn, Tynal Tywyll a Datblygu a mwy; llawer iawn mwy. Y scizoffrenia o fynd o gig ar iard fferm i chwarae mewn Gwyl Roc, llwyfan ysgol a thafarn yn y dre. Mae ‘Y Cyrff’ yn rhan mor allweddol o'r cyfnod yma ond mae eu cerddoriaeth wedi ymestyn ymhellach na hynny, i fod yn rhan o'n hetifeddiaeth. Efallai bod pawb yn cofio'r anthem ond mae perlau eraill oddi fewn i ganeuon yn parhau yng nghof ac yn hanes yr unigolion. “Ond toeddan nhw'n ddyddiau i'r Eithaf(er Gwaethaf), Ond toeddan nhw'n ddyddiau mor hael.” Melodi, riff a reiat o swn – geiriau cofiadwy yn rhan o atgofion ein gorffennol.

O'r cychwyn roedd rhywbeth arbennig yn perthyn i ‘Y Cyrff’. Nid jyst yr egni yn y chwarae a'r cyd-chwarae, ond y dwyster a'r gonestrwydd yn y canu. Yn “Y Testament Newydd” a “Phethau Achlysurol, o'r “Haint” i “Lebanon” o Gaerdydd i Ynys Mon. Llinellau sy'n aros yn y cof ac yn cofleidio'r enaid – “A Cysgod Eryri'n cadw ti'n gaethwas.” Oddi fewn i gymaint o'r caneuon mae ‘na ryw hiraeth, ac unigrwydd, yn ogystal a'r gorfoledd a'r nwyd sydd yn perthyn i'r rhai sydd yn gallu treiddio'n ddwfn. Efallai bod steil y gwallt a'r dillad yn newid, a gwead y gan yn amrywio, ond roedd yr angerdd yn ymestyn drwy'r cyfan, ac mae angerdd y caneuon yn parhau. Y gallu i syllu a sylwi ac i adnabod y tawelwch yn nghanol y swn. Y gallu i adnabod gwirioneddau. Cofiwch nhw yn ddiolchgar.

“Tyrd hefo fi lle di'r anifeliad ddim yn mentro
A gawn ni siarad am Gymru, Lloegr a Llanrwst unwaith eto”

Toni Schiavone 2005