Prosiectau:
From the Other Side
Sioe diweddaraf Eirwen a Phil yw 'From the Other Side'. Mae'r straeon yn 'codi' o mynwent yr eglwys yn mhentr Yr As Fawr ym Mro Morgannwg. Casgliad o storiau, caneon a cherddoriaeth wedi seilio ar teulu lleol, ei cymeriadau a digwyddiadau rhyfedd. Aeth ymchwil dwfn i mewn i'r sioe ac wrth seilio'r storiau ar feithiau gwir mae'r storiau yn fwy diddorol byth. Perfformiwyd y sioe yma gyntaf yng Ngwyl Gwladol Adrodd Straeon Awstralia ym Mrisbane, Medi 2003. (Gellir cyflwyno'r sioe yma gyda'r storiau i gyd yn Y Gymraeg pe dymunir)
One Last Dance
Sioe o awr yn cynnwys cerddoriaeth, caneuon a hanes ..... nid sioe cerdd, na ddrama mwy cyfyniad o adrodd stori a hanes fyw. Mae'r stori yn dechrau yn Melin Gelligroes yng Nghwm Sirhowy, gyda llanc o'r enw Artie Moore a'u set radio ac yn gorffen gyda'r Titanic yn suddo miloedd o filltiroedd i ffwrdd. Gwnaeth Artie a rhai o'r cymeriadau eraill yn y sioe hanes yn noson honno mewn sawl ffordd!
A Tale of Two Rivers
Stori yw hon am cymunedau glo De cymru a sut y wnaethont cadw'n fyw ei traddodiadau gwaith a cymdeithasol pan aeth nifer fawr i ceisio'i lwc yn Pennsylvania UDA. Mae 'A Tale of Two Rivers' yn prosiect fwy o faint yn cynnwys stori, cân a dawns. Mae'r sioe mawr yn priodol i theatr neu gwyl fawr ond gellir cyflwyno fersiwn llai ar gyfer lleoliadau llai o faint.
Storiau o Gymru
Detholiad o storiau o Gymru o repertoire eang Eirwen, gan cynnwys rhai gyda gyfeiliant canmoladwy Phil. Mae gyda Eirwen diddordeb mawr mewn hybu'r iaithGymraeg ac mae'n medru perfformio yn Y Gymraeg neu yn Saesneg. Gyda'i gilydd mae Eirwen a Phil wedi datblygu ffurf unigryw o adrodd stori yn ddwyieithog sydd ddim yn cyfieithiad ond sydd yn cyniatau'r di -Gymraeg i werthfawrogi stori Gymraeg.
Y Mabinogi (ar y gweill)
Trysor hynaf a mwyaf pwysig llenyddiaeth Cymru yw'r Mabinogi. Ar hyn o bryd mae Eirwen a Phil yn gweithio ar ffordd o gyfwyno un cainc gyda Eirwen yn adrodd y stori a Phil yn gyfeilio. Bydd y prosiect yma yn barod yw gyflwyno yn y Gwanwyn hwyr neu yn gynnar yn Hâf 2004.
Stori a Chân
Mae gan Phil ac Eirwen hefyd repertoire o ganeuon a tonau ac yn medru teilwri perfformiad gyda ychydig o storiau a buddai'n fwy addas i gynulleidfa sydd yn hoffi cerddoriaeth gwerin.