|
O'r fwyalchen
ddu bigfelen,
Swyna'r fron
a'th gynnar gan.
Nodau peraidd
calon lawen
Ddeffry gor
yr adar man.
Tyrd i wrando
cwyn bachgennyn
Sydd mewn
gofid nos a dydd;
Hiraeth creulon sy'n ei ganlyn
Hiraeth dyr ei galon brudd.
Gado cymoedd
ceinion Cymru
Gado swyn
hen wlad y gan.
O mor anhawdd
yw gwahanu
Cymro pur
a Chymru lan.
Cwyd dy nodau
hiraeth calon
Tra twy'n
tario 'ngwlad y Sais,
Mewn atgofion
am y Goed-fron
Lle bu gynt
mor fwyn dy lais.
|