Y Ddau Farch (The Two Steeds)

Pan oeddwn ar foreddydd,
Ffal-di ral-di lam tam, ffal-di ral-di ro,
Yn rhodio maes o'm cyfudd,
Cyfarfod wneuthum a dau farch,
A dau farch, di ral-di ral-di ro,
Yn ymgom ar y mynydd.

Dywedai y cel gwanna,
Ffal-di ral-di lam tam, ffal-di ral-di ro,
Nawr wrth y ceffyl cryfa,
'Fe fum i undydd yn fy mharch,
Yn fy mharch, di ral-di ral-di ro,
Yn gystal march a thitha.

Pan 'es yn hen glyhercyn,
Ffal-di ral-di lam tam, ffal-di ral-di ro,
Ces gario yd i'r felin,
A beth ddigwyddodd i fy rhan,
I fy rhan, di ral-di ral-di ro,
Ond gogred gwan o eisin.

'Tynasant fy mhedole,
Ffal-di ral-di lam tam, ffal-di ral-di ro,
Gyrasant fi i'r mynydde,
A thra bo anadl yn ty ttroen,
Yn fy ffroen, di ral-di ral-di ro,
Ni ddeuaf byth tuag adre!'

Welsh traditional, from Canu'r Cymru II, P Kinney and M Evans. The song was recorded in Cardiganshire.