|
Fel yr oeddwyn
i yn rhodio a'm calon fach yn brudd
Ar ddydd Llun y bore ar doriad y dydd
Mi glywn y gwcwn tiwnio yn hynod iawn o fwyn
Ar gangen o fedwen yn ochor y llwyn
Pan glywais
ei hadlais yn twinio mor fwyn
Ar ochor bryn uchel, ar frigau'r tew lwyn
Mi ofynnais iddi gwestiwn yn ddifri' a di-wad
P'le buost ti'r gywen mor hir o dy wlad?
Mi fum i
yn rhywle, nis gwn i amcan b'lc
Yn gorwedd yn farwaidd, yn gaeth iawn fy llc
Yn llechu ac yn cysgu mewn lloches dros dro -
Yn awr cefais gennad i roi tro yn eich bro
Mae iti
gan' croeso, ni ddweda'i ond y gwir
Mae hiraeth amdanat ar for ac ar dir
Ac am gael dy glywed yn twinio'r hen don -
Amdanat ti'r gwcw bydd llawer o son
Ni alla'i
ddim canu na 'hedeg ychwaith
Mae 'mrest i'n rhy ysgafn i gynnal y gwaith
I ffwrdd yr af ymaith, fy adar sydd fan
A chyn dydd gwyl Ifan fe dderfydd fy nghan
O'r gwcw
bach lwydlas ni chreda'i ddim byth
Dy fod ti'n cael canu ac eiste ar dy nyth
Na magu dy gywion yn dirion ar dwyn
Gwell gen' ti o lawer gael 'hedeg i lwyn
Mae gen
i aderyn a elwir y gwas
Mae o yn cydeistedd a'r gwcw bach las
Yn casglu bwyd imi a'm cadw rhag gwall
A minnau yn canu o'r naill bren i'r llall
Fy amser
i ganu yw Ebrill a Mai
A hanner Mehefin, chwi wyddoch bob rhai
I ffwrdd yr af ymaith, a'm hadar sydd fan
A chyn dydd gwyl Ifan fe dderfydd fy nghan.
|