|
Gogoniant
i Gymru, anwylwlad fy nhadau
Pe medrwn,
mawrygwn dy fawredd a'th fri:
Mae'r Awen
yn caru dy wedd a'th rinweddau
Hoff famaeth
athrylith a dewrder wyt ti.
Bu amser
pan hoffai tywysogion dy delyn,
A'i sain
a gyffroai wrolion y gad
I ruthro'n ddisymwth ar warchae y gelyn,
Gan ymladd dros ryddid a breintiau eu gwlad.
Fy henwlad
fendigaid, mae anian yn urddo
Pob mynydd
a dyffryn, pob clogwyn a glyn.
Ac ysbryd
prydferchwch a'i liw yn goleuo
Pob afon
ac aber, pob llanerch a llyn;
Gwladgarwch
a rhinwedd, bendithiant dy enw,
Dy feibion
a'th ferched a garant dy fri;
Gorhoffedd
dy feirddion yw denu dy sylw,
Er gwaethaf
pob gelyn, eu testun wyt ti.
|