Arthur yn Cyfodi

Yng nghyfrin ogo'r tylwyth teg,
Wrth odre'r dal Elidir,
Yng nghanol ei farchogion dewr,
Gorffwysa'r brenin Arthur;
Ac addo wnaeth wrth ado'r byd,
I wella o'i archollion,
Y deuai'n ôl os byddai plant
Ein gwlad i'w gwlad yn ffyddlon.

Ar ôl canrifoedd chwerwon maith
O riddfan a galaru,
Y dwyrain ddengys doriad gwawr
Oes euraid hanes Cymru;
Mae arfau dur ar hyd y wlad
Yn peri trwst a chyffro
Wrth naddu meini temlau dysg, -
Mae Arthur wedi deffro.

Llawn och a galar fu ein gwlad
Er pan y clwyfwyd Arthur,
A than ddyrnodiau gorthrwm du
Bu llawer Cymro'n ferthyr;
Ond methodd gormes lem a grym
Gelynion ein difodi:
Mae Cymru'n bod, a'r iaith yn byw,
Ac Arthur yn cyfodi.

R. Silyn Roberts from Telyn y Dydd, ed A. Ffoulkes 1918.